Diwedd Wythnos 12 | End of Week 12
SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Mae’n anodd credu bod 12 wythnos wedi bod! Rydym yn mynd i golli eich plant pob dydd yn yr uned!
Uchafbwyntiau Amser Ein Plant yng Ngharreg Lam
A dyna ni! Mae amser y plant yng Ngharreg Lam wedi dod i ben. Hoffwn ddiolch o galon i’r plant ac i chi fel teuluoedd am eich ymroddiad a brwdfrydedd. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r plant dros y misoedd nesaf yn eu dosbarthiadau prif ffrwd. I ddechrau'r wythnos roedd cyfle i'r plant ail-ymweld gyda'r thema'r synhwyrau a'r tymhorau. Roedd y plant wedi mwynhau cyfle i baentio'r dail ar y coed a disgrifio beth sydd yn digwydd i'r dail yn ystod pop tymor. Yna chwaraeodd y plant gem o Jenga er mwyn trosi berfau. Roedd defnyddio'r pwll o beli hefyd yn hwylus er mwyn chwilio am odrifau ac eilrifau. Cafodd y plant amser gwych yn golchi llestri ac ymarfer rhoi cyfarwyddiadau am sut i wneud yn dda. Ar ei diwrnod olaf, roedd y plant wedi mwynhau creu llyfr sy'n dathlu ei chyraeddiadau ieithyddol ac roedd cyfle i ddylunio anifail diddorol hefyd. Roedd y plant i gyd wedi mwynhau.
Mae nifer iawn o uchafbwyntiau ers i’r plant dechrau gyda ni ym mis Medi. Hoff atgof Mrs. Soper i oedd gweld cyffro'r plant ar bob trip a deall bod yr iaith yn gallu pontio tu hwnt i waliau Carreg Lam. Hoff atgof Miss Stokes oedd cwrdd â phlant newydd a gweld hyder y plant yn datblygu wrth ddefnyddio'r iaith.
Dyma beth ddywedodd y plant am eu hoff atgofion:
Harri-John- Fy hoff atgof yw mynd i Sain Ffagan achos rydw i wedi golchi dillad amser maith yn ôl
Thomas- Fy hoff atgof yw mynd i'r caffi achos yfais i ysgyt;aeth siocled a siaradais Cymraeg yn y caffi.
Ebony- Fy hoff atgof yw bowlio achos roedd hi'n hwylus. Ces i streic.
Travis- Fy hoff atgof yw bowlio achos roedd pawb yn dda. Dywedais 'Da iawn' i bawb.
Ffion- Fy hoff atgof yw bowlio achos roedd hi'n hwyl a sbri. Taflais y bel bowlio yn dda.
Isabella- Fy hoff atgof yw coginio pitsa ham a cheese. Rwy'n hoffi pitsa.
Rory- Fy hoff atgof yw Dŵr Cymru achos gwelais i anifeiliaid yn y pwll ac yn y mwd
Hoffwn ddiolch o galon i’r plant ac i chi fel teuluoedd am eich ymroddiad a brwdfrydedd. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r plant dros y misoedd nesaf yn eu dosbarthiadau prif-ffrwd.
Dear Families,
It's hard to believe that there 12 weeks has gone by! We are going to miss your children every day in the centre!
Highlights of Our Children’s Time at Carreg Lam
And that's it! The children's time at Carreg Lam has come to an end. I would like to thank the children and you as families from the bottom of my heart for your dedication and enthusiasm. We are looking forward to supporting the children over the coming months in their mainstream classes. To start the week there was an opportunity for the children to revisit the theme of the senses and the seasons. The children enjoyed the opportunity to paint the leaves on the trees and describe what happens to the leaves during each season. The children then played a game of Jenga to convert verbs. Using a ball pit the children enjoyed searching for odd and even numbers. The children then had a great time washing dishes and practicing giving instructions about how to do it well. On their last day, the children enjoyed creating a book that celebrates their linguistic achievements and there was also the opportunity to design an interesting animal. All the children had great fun.
There have been many highlights since the children started with us in September. Favourite memory of Mrs. It was great to see the excitement of the children on each trip and to understand that the language can bridge beyond the walls of Carreg Lam. Miss Stokes' favourite memory was meeting new children and seeing the children's confidence develop when using the language.
Here's what the children said about their favourite memories:
Harri-John- My favourite memory is going to St Fagans because I washed clothes like in the olden days
Thomas- My favorite memory is going to the café because I drank a chocolate milkshake and I spoke Welsh in the café.
Ebony- My favorite memory is bowling because it was fun. I had a strike.
Travis- My favorite memory is bowling because everyone was good. I said 'Well done' to everyone.
Ffion- My favorite memory is bowling because it was fun. I threw the bowling ball well.
Isabella- My favorite memory is cooking pizza with ham and cheese. I like pizza.
Rory- My favourite memory is Welsh Water because I saw animals in the pond and in the mud
We look forward to supporting the children over the coming months in their main-stream classes.
Comments