top of page

12/05/2023 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Rydym wedi mwynhau wythnos arall yng Ngharreg Lam gyda’n plant bendigedig!





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae'r plant wedi mwynhau dysgu am y corff yr wythnos yma. Rydym wedi dysgu enwau rhannau o'r corff, edrych ar y sgerbwd a dysgu caneuon hwylus. Roedd e'n braf gweld pawb yn chwerthin a dawnsio ar y diwrnod cyntaf yn nôl ar ôl gŵyl y banc. Roedd y plant yn gyffrous dros ben am y trip yr wythnos yma. Roedd e’n gyfle gwych unwaith eto i ddefnyddio’r iaith maen nhw wedi dysgu allan yn y gymuned. Roedd y plant yn cefnogi eu gilydd wrth chwarae a chafon nhw llawer o hwyl. Mae’r plant wir wedi mwynhau chwarae rôl yn y feddygfa yr wythnos yma. Mae nhw wedi dysgu sut i ateb y ffôn, casglu gwybodaeth am apwyntiad, darllen amser, mynegi beth sydd yn bod ac sicrhau bod nhw’n rhoi y triniaeth gorau posib a hynny oll trwy’r Gymraeg!





Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Golchdŷ’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Rydw i'n gwisgo…

  • Mae e / hi'n / rydyn ni'n / maen nhw'n gwisgo…

  • Sut mae'r tywydd heddiw? Mae hi'n...

  • Sut oedd y tywydd ddoe? Roedd hi'n…

  • Sut fydd y tywydd yfory? Bydd hi'n...

  • Pan mae… (e.e. Mae angen gwisgo cot pan mae hi'n oer)

  • Rhy... (e.e. mae'n rhy fawr)

  • Rhagfynegi (e.e. Rwy'n meddwl bydd y dillad yn sychu ar y lein ddillad)


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:




Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: Ar 17/05/2023, byddwn yn mynd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan er mwyn cymryd rhan mewn gweithdy trwy’r Gymraeg. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig os nad ydych chi wedi archebu gyda ni. Hefyd, bydd angen potel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.

  • YR WYTHNOS AR ÔL:

    • Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg ar 23/05/2023 i 25/05/2023 ar ôl ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae'ch plentyn yn gwneud hyd yn hyn, sut maen nhw wedi setlo a beth yw eu camau nesaf. Fel y gwyddoch o gylchlythyr wythnos diwethaf, mae’r cyfarfodydd ar gael mewn person (ein dewis cyntaf), cyfarfodydd dros y ffôn neu Microsoft Teams. Dylech chi nawr wedi cael cadarnhad o’r amser yr ydych chi’n cwrdd gyda staff y ganolfan. Os na, ebostiwch post@carreg-lam.com a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

    • Ar 26/05/2023, bydd plant yn cael diwrnod trosglwyddo yn ôl i'w dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd ein staff yn ymweld â'ch plant yn yr ysgol yn hytrach na'ch plentyn yn dod i'n safle. Mae hwn yn gyswllt anhygoel o bwysig yn ôl ag ysgol eich plentyn fel y gallant gadw mewn cysylltiad agos â ffrindiau.


Mwynhewch eich penwythnos!




 

Dear Families,


We have enjoyed another week at Carreg Lam with our wonderful children!



Highlights of the Week

The children have enjoyed learning about the body this week. We have learned the names of parts of the body, looked at the skeleton and learned easy songs. It was nice to see everyone laughing and dancing on the first day back after the Bank Holiday. The children were extremely excited for the trip this week. It was once again a great opportunity to use the language they have learned out in the community. The children supported each other while playing and had a lot of fun. The children really enjoyed role play in the surgery this week. They have learned how to answer the phone, gather appointment information, read time, express what is wrong and make sure they give the best possible treatment all through the medium of Welsh!






Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Laundrette’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Rydw i'n gwisgo…

  • Mae e / hi'n / rydyn ni'n / maen nhw'n gwisgo…

  • Sut mae'r tywydd heddiw? Mae hi'n...

  • Sut oedd y tywydd ddoe? Roedd hi'n…

  • Sut fydd y tywydd yfory? Bydd hi'n...

  • Pan mae… (e.e. Mae angen gwisgo cot pan mae hi'n oer)

  • Rhy... (e.e. mae'n rhy fawr)

  • Rhagfynegi (e.e. Rwy'n meddwl bydd y dillad yn sychu ar y lein ddillad)


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:





Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On 17/05/2023, we will go to the National Museum of Wales at St Fagans to take part in a Welsh language workshop. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit - costs have been covered by Carreg Lam. However, your child will need a packed lunch if you haven't ordered with us. You will also need a bottle of water. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

  • THE WEEK AFTER:

    • We have Pupil Progress and Wellbeing Meetings running on 23/05/2023 to 25/05/2023 after school. This is a great opportunity to find out how your child is doing so far, how they have settled and what their next steps are. As you know from our newsletter last week, the meetings are available in person (our first choice), telephone meetings or Microsoft Teams. You should now have confirmation message of the time you will be meeting with the Centre's staff. If not, email post@carreg-lam.com and we will get back to you as soon as possible.

    • On 26/05/2023, children will be having a transition day back to their main-stream classes. Our staff will be visiting your children in school rather than your child coming to our site. This is an incredibly important link back with your child’s school so that they can keep in close contact with friends.


Enjoy your weekend!




8 views

Comments


bottom of page